Teitl y grŵp trawsbleidiol: |
Y Sector Gweithgareddau Awyr Agored yng Nghymru |
Dyddiad y cyfarfod: |
28 Medi 2022 |
Lleoliad: |
Drwy Zoom |
Enw: |
Teitl: |
Sam Rowlands |
Is-gadeirydd – Aelod o'r Senedd |
Jeremy Miles |
Y Gweinidog Addysg |
Paul Donovan |
Ysgrifenyddiaeth – Cynghrair Awyr Agored Cymru a Sefydliad Twristiaeth Antur Cymru |
Rebecca Brough |
Ysgrifenyddiaeth – Ramblers Cymru |
Graham French |
Aelod – Cymdeithas Penaethiaid Canolfannau Addysg Awyr Agored – Gogledd Cymru |
Clare Adams |
Aelod – Panel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru |
Kathryn Stewart |
Aelod – Cymdeithas Ceffylau Prydain |
Jethro Moore |
Aelod – Y Siarter Arfordiro Cenedlaethol |
Catherine Williams |
Aelod – Eryri-Bywiol a Sefydliad Twristiaeth Antur Cymru |
Emma Robinson |
Aelod – Y Gymdeithas Hostelau Ieuenctid |
Paul Airey |
Aelod – Y Bartneriaeth Awyr Agored |
Mark Jones |
Aelod – Y Bartneriaeth Awyr Agored |
Mike Rosser |
Aelod – Panel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru ac Adventure UK |
Gethin Thomas |
Aelod – Pwyllgor Rheoli Cymwysterau, Cymdeithas Ogofa Prydain |
Tom Carrick |
Aelod – Cyngor Mynydda Prydain |
Sue Williams |
Sylwedydd – Cyfoeth Naturiol Cymru |
Phil Stone |
Aelod – Canŵ Cymru |
Simon Patton |
Aelod – Hyfforddiant Mynydda Cymru |
Angela Jones |
Aelod – Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri |
Paul Frost |
Aelod – Y Bartneriaeth Awyr Agored |
Steve Morgan |
Aelod – Plas Menai a Chwaraeon Cymru |
Eben Muse |
Aelod – Cyngor Mynydda Prydain |
Phil Stubbington |
Aelod – Gwobr John Muir (Cymru) |
Beverley Penny |
Aelod – Cymdeithas Mannau Agored |
Sian Thomas |
Sylwedydd – Ymchwil y Senedd |
Arwel Elias |
Aelod – Panel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru |
Richard John |
Aelod – Deryn, ar ran yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru |
Greg Whiting |
Sylwedydd – Tîm Addysg y Senedd |
Ymddiheuriadau |
|
Enw: |
Teitl: |
Huw Irranca-Davies |
Cadeirydd – Aelod o'r Senedd |
Andy Meek |
Aelod – Cymdeithas Penaethiaid Canolfannau Addysg Awyr Agored – De Cymru |
Delyth Jewell |
Aelod o’r Senedd |
Llyr Gruffydd |
Aelod o’r Senedd |
Peredur Owen |
Aelod o’r Senedd |
Heledd Fychan |
Aelod o’r Senedd |
Steve Rayner |
Aelod – Grŵp Darparwyr Gweithgareddau Awyr Agored De Cymru a Sefydliad Twristiaeth Antur Cymru |
Alison Roberts |
Aelod – Cyfoeth Naturiol Cymru |
Paul Renfro |
Aelod – Fforwm Arfordir Sir Benfro, Grŵp Siarter Awyr Agored Sir Benfro a Sefydliad Twristiaeth Antur Cymru |
Alistair Dickson |
Aelod – Canŵ Cymru |
Cefin Campbell |
Is-gadeirydd – Aelod o'r Senedd |
Sian Richings |
Aelod – Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) |
Emma Edwards-Jones |
Aelod – Eryri-Bywiol a Sefydliad Twristiaeth Antur Cymru |
Crynodeb o'r cyfarfod
Derbyniwyd y cofnodion blaenorol fel rhai cywir.
Camau a gododd yn flaenorol:
1. Anfonwyd llythyr at Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ynghylch treialu diwygiadau o ran mynediad. Mae’r grŵp yn parhau i aros am ymateb.
2. Nid yw aelodau’r grŵp eto wedi cynnal trafodaethau ynghylch adnoddau ar gyfer gwneud gwaith pellach ar ddiwygio’r gyfundrefn mynediad.
Cyflwyniad
Cafwyd cyflwyniad gan Graham French, a siaradodd am Addysg a Dysgu Awyr Agored yng Nghymru.
Dyma’r pwyntiau a godwyd yn y cyflwyniad:
1. Tynnwyd sylw at ddiffiniadau defnyddiol:
· Dysgu awyr agored – pynciau a addysgir yn yr awyr agored, a dull gweithredu y gellir ei ddefnyddio ar draws pob pwnc ac ar draws ystod eang o addysgu;
· Addysg antur – gweithgareddau mwy traddodiadol, er enghraifft, cerdded bryniau, caiacio ac ati, sydd yn aml yn canolbwyntio ar ddysgu personol a chymdeithasol – wedi bod yn rhan o'r cwricwlwm ers 2008;
· Addysg Awyr Agored: yn cwmpasu elfennau o Ddysgu Awyr Agored ac Addysg Antur ac iaith gyffredin ddefnyddiol i Gymru.
2. Mae addysg awyr agored yn digwydd mewn lleoliadau amrywiol – canolfannau preswyl neu ganolfannau ar gyfer ymweliadau dydd; yn yr ysgol, gyda staff arferol neu staff arbenigol allanol.
3. Mae’n cysylltu â’r cwricwlwm drwy’r canlynol:
· Maes dysgu Iechyd a Lles – yn cefnogi’r broses o ddatblygu ymddygiadau cadarnhaol gydol oes o ran ffyrdd o fyw; yn creu cysylltiadau â natur; yn prosesu emosiynau ac effaith gweithredoedd ar bobl eraill;
·
Maes Dysgu'r Dyniaethau – yn
nodi cyfleoedd i ddysgu yn yr awyr agored fel ystyriaeth benodol ar
gyfer cyflwyno’r cwricwlwm; ac yn creu cysylltiadau â
rhyfeddodau byd natur.
4.
Opsiynau ar gyfer ymgysylltu ag
athrawon drwy Ganolfannau Awdurdodau Lleol (canolfannau mewn
awdurdodau yng Nghymru, a chanolfannau yng Nghymru sy’n eiddo
i awdurdodau yn Lloegr); sefydliadau’r trydydd sector;
darparwyr masnachol neu fusnesau cymysg; Ysgolion Coedwig; Cyfoeth
Naturiol Cymru.
5. Mae’r heriau ar gyfer y sector yn cynnwys y canlynol:
· Darparu adnoddau i ysgolion sy’n eu cysylltu â chwricwlwm newydd Cymru a’i ethos;
· Angen cyfeirio – mae gwybodaeth am y cyngor sydd ar gael drwy Banel Ymgynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru yn anghyson ymhlith ysgolion;
· Cydlynu dulliau cenedlaethol – hyrwyddo dealltwriaeth gyffredin o’r iaith a’r dulliau a ddefnyddir;
· Tegwch – fforddiadwyedd a hygyrchedd i bawb. Nid yw pob ysgol yn cymryd rhan, ac o fewn ysgolion, nid yw cyfleoedd bob amser yn hygyrch i bawb;
· Cydnabyddiaeth – mae angen gwella’r cyfathrebu ynghylch gwerth a diben y mentrau hyn – symud o fod yn ‘bethau neis i’w cael’ neu’n ‘brofiadau cyfoethogi' i fod yn hawliau, a hynny fel rhan o ddull gweithredu’r athro / athrawes. Rôl gwobrau o ran ychwanegu lefel o gydnabyddiaeth ar gyfer cymryd rhan;
· Uchelgais o ran sicrhau bod dysgu awyr agored yn dod yn rhan o daith addysgol pob plentyn ac yn rhan o’r dull gweithredu parthed eu haddysg.
Trafodaeth gyffredinol a materion i'w nodi
6. Croesawodd y Gweinidog y cyflwyniad a myfyriodd ar y materion a ganlyn:
· Pwysigrwydd addysg awyr agored a'r cysylltiad â lles a dewisiadau bywyd dysgwyr, yn enwedig natur gynhwysol y buddion;
· Pŵer dysgu awyr agored yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur, a'r cysylltiadau y mae'n eu creu â byd natur;
·
Y ffaith bod
adnoddau'n cael eu comisiynu'n barhaus, a’r ffaith bod cyfle
i'r Rhwydwaith Cenedlaethol o arbenigwyr addysg/allanol a staff
ysgolion ddod at ei gilydd mewn mentrau trylwyr i ddatblygu
adnoddau ac arfer gorau ym maes addysg awyr agored.
Mae’r pwyntiau a ganlyn yn adlewyrchu’r drafodaeth fforwm agored a gafodd ei chynnal gan y rhai a oedd yn bresennol:
7.
Sut i hwyluso
cyfranogiad athrawon; y gofynion ychwanegol ar amser athrawon, yn
enwedig teithiau preswyl, sydd yn anodd; yr angen i ystyried
sicrhau adnoddau er mwyn darparu gwersi.
8.
Gall codi arian
helpu i gefnogi ecwiti o ran y gost o ymgymryd â theithiau,
ond mae hefyd yn cael effaith ar rôl athrawon o ran cefnogi'r
fenter hon.
9.
Gallai
ymgorffori Addysg Awyr Agored fel rhan o hyfforddiant athrawon
helpu’r broses o sicrhau bod hyn yn cael ei weld fel rhan
o’u rôl, ac nid fel gweithgaredd ychwanegol, a gall y
profiadau a gafwyd yn ystod y cyfnod COVID helpu’r broses o
newid diwylliant tuag at hynny.
10. Bydd angen defnyddio a
chroesawu darparwyr awyr agored arbenigol, a bydd angen cydnabod y
sgiliau proffesiynol a'r arbenigedd sydd ganddynt a allai
helpu’r broses o gyflwyno'r cwricwlwm newydd.
11. Mae gwaith y Panel Cynghorwyr
Addysg Awyr Agored o ran mynd â dysgu allan i’r awyr
agored yn dechrau gyda staff addysgu yn defnyddio eu tir eu hunain,
ynghyd â chydnabyddiaeth o sgiliau a phrofiadau presennol yr
athrawon; yna, mae gofyn datblygu eu hyder a'u cymhwysedd er mwyn
symud ymhellach i ffwrdd.
12. Mae’r sector yn sylwi bod grwpiau llai yn mynd i’r canolfannau wrth i’r pwysau ariannol ar deuluoedd gynyddu.
13. Mae cynaliadwyedd y dull
gweithredu yn bwysig, o ran ymgysylltu â darparwyr allanol a
hyfforddi staff ysgol. Mae angen pecynnau cymorth priodol
sy’n parhau i fod ar gael yn yr ysgol pan fydd staff yn
gadael.
14. Mae ansawdd a pherthnasedd
adnoddau, a sut i gyfeirio pobl atynt, yn allweddol; mae angen
mapio’r hyn sy’n cael ei ddatblygu a’r hyn sydd
ar gael ar draws y sbectrwm cyfan o ddysgu awyr agored.
15. Mae'r continwwm profiadau
– o enedigaeth, drwy oedran ysgol, ac i fywyd cymunedol
– yn hanfodol o ran cynnal gweithgarwch awyr agored ac yn
cynnig opsiynau ar gyfer datblygu sgiliau a chyflogaeth yn
ddiweddarach mewn bywyd.
16. Mae’r buddion iechyd
corfforol ac iechyd meddwl cydnabyddedig sy’n gysylltiedig
â dysgu awyr agored, a’u heffeithiau ar gysylltedd
â byd natur, yn ddeilliannau sydd yr un mor bwysig, gan helpu
i greu dinasyddion sy’n ymgysylltiedig ac sy’n
ymwybodol o bwysigrwydd yr amgylchedd.
17. Mae angen creu profiad diogel o
ansawdd da lle mae pobl yn cael eu haddysgu i fwynhau’r awyr
agored yn ddiogel ac yn gyfrifol. Mae llawer o adnoddau ar gael,
ond mae angen eu mapio a’u dwyn ynghyd, ac mae angen sicrhau
bod diwylliant priodol yn datblygu yng Nghymru o ran addysg awyr
agored.
18. Y mater o amharodrwydd i gymryd
risg: sut yr eir i’r afael â hyn ar lefel
arweinyddiaeth pan gaiff cyfleoedd eu gwrthod oherwydd y risg
ganfyddedig? A oes rôl i Lywodraeth Cymru?
19. Mae angen ystyried meysydd
traws-bortffolio ehangach, megis cysylltiadau â diwygiadau ym
maes amaethyddiaeth, a sut mae mynediad at yr awyr agored yn cael
ei reoli gan dirfeddianwyr, a sut mae tirfeddianwyr yn ymwneud
â’r broses o reoli eu tir er budd dysgu awyr agored, o
ystyried yr heriau sy’n bodoli ar hyn o bryd o ran cyflwr
rhai llwybrau a chyfran o’r tir.
20. Bydd dadl ynghylch Bil Aelod ar
Ddysgu Awyr Agored yn cael ei chynnal tua diwedd mis Hydref –
Bil a gynigiwyd gan Sam Rowlands AS.
21. Cydnabu’r Gweinidog gyfleoedd ar gyfer diwylliant awyr agored sydd wedi’i wreiddio yn y system addysg ac yn null gweithredu’r cwricwlwm. Nododd yr heriau sy’n bodoli o ran adnoddau, ac mae’n dymuno ystyried ymhellach sut y gallai trafodaeth ynghylch Rhwydwaith Cenedlaethol archwilio cyfleoedd hyblyg a sicrhau continwwm o ran profiadau drwy'r cyfnodau addysg. Byddai symud i sylfaen statudol yn codi cwestiynau ynghylch cyllid ac amodau, a sut y dylid ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael at ddibenion cyflawni. Croesawir ystyriaeth bellach ynghylch y cydbwysedd rhwng ddull gweithredu integredig a chynnig gan wahanol leoliadau sy’n fwy hyblyg a chynnil.
Camau i’w cymryd yn sgil y cyfarfod
1. Archwilio ymarfer mapio ynghylch adnoddau gyda'r Panel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored – yr Ysgrifenyddiaeth i ddechrau sgyrsiau gyda sefydliadau addysg awyr agored allweddol ac adrodd yn ôl yng nghyfarfod nesaf y Grŵp.
2. Archwilio awgrym y Gweinidog ynghylch sgyrsiau ar y Rhwydwaith Cenedlaethol gyda ffocws ar Ddysgu Awyr Agored – yr Ysgrifenyddiaeth i wneud cais i’r Gweinidog ymweld â’r Storey Arms yn y flwyddyn newydd, gyda’r bwriad o wneud gwaith dilynol ynghylch awgrym y Gweinidog a’i fyfyrdodau eraill, sydd wedi’u nodi ym mhwynt 21 uchod.
3.
Trefnu Cyfarfod
Cyffredinol Blynyddol – yr Ysgrifenyddiaeth i wneud y
trefniadau angenrheidiol cyn gynted â phosibl, gan sicrhau
bod y Cadeirydd a'r Is-Gadeiryddion ar gael.
Y cyfarfod nesaf:
Diogelwch yn yr Awyr Agored
Dyddiad ac amser:I'w gadarnhau, yn gynnar yn 2023 – yn aros am gadarnhad gan swyddfa Dawn Bowden ynghylch dyddiad priodol
Lleoliad: efallai yng Ngogledd Cymru, lleoliad penodol i'w gadarnhau
Rhithwir: Linc Zoom: I'w gadarnhau a'i ddarparu yn y gwahoddiad ar gyfer y cyfarfod nesaf.